Adeilad y Pierhead

Adeilad y Pierhead
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1897 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBae Caerdydd, Tre-Biwt Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Tre-Biwt Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4635°N 3.1634°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Adeilad rhestredig Gradd I yng Nghaerdydd yw Adeilad y Pierhead (a elwir weithiau yn syml yn y Pierhead, er enghraifft ar y wefan swyddogol). Saif ym Mae Caerdydd, gyferbyn ag adeilad y Senedd. Mae'n eiddo i'r Cynulliad Cenedlaethol a cheir arddangosfa am hanes Cymru a gwaith y Cynulliad oddi'i mewn.

Codwyd yr adeilad o 1896 i 1897 i gynlluniau William Frame, pensaer Ardalydd Bute, fel swyddfeydd ar gyfer Cwmni Dociau Bute.[1] (Ailenwyd hwn i Gwmni Rheilffordd Caerdydd ym 1897.)[2] Fe'i cynlluniwyd yn arddull adfywiedig y Dadeni Ffrengig gyda briciau coch a terracotta a wnaed gan J. C. Edwards o Acrefair, ger Rhiwabon, Bwrdeistref Sirol Wrecsam.[3] Ar y ffasâd gorllewinol ceir panel terracotta â llong, peiriant rheilffordd, arbeisiau Morgannwg ac Ardalyddion Bute ac arwyddair Cwmni Rheilffordd Caerdydd, WRTH DDŴR A THÂN.[4]

Prynwyd Cwmni Rheilffordd Caerdydd gan Reilffordd Great Western ym 1922; parhaodd yr adeilad fel swyddfeydd trwy gydol hyn a gwladeiddio'r rheilffyrdd ym 1947. Wedi hynny bu amryw o gyrff gwladol yn ei defnyddio, gan gynnwys Associated British Ports yn y 1970au.[2] Ym 1973 gwerthodd British Rail fecanwaith y cloc i gasglwr yn America; fe'i dychwelwyd i Gaerdydd yn 2005 ac ers 2011 y mae wedi ffurfio rhan o waith celf yn Heol Eglwys Fair gan yr artist Marianne Forrest.[5]

Ym 1998 trosglwyddwyd Adeilad y Pierhead i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[2] Agorodd i'r cyhoedd fel canolfan ymwelwyr y Cynulliad yn 2001 ac fe adnewyddwyd yr arddangosfa yn 2010.[3] Oherwydd y tŵr cloc amlwg cyfeirir at adeilad y Pierhead ambell waith fel "Big Ben Cymru"[2] ac y mae i'w gweld yn y cefndir yn narllediadau newyddion Cymreig y BBC ac HTV.

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link) t. 266
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Hanes y Pierhead. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2013.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Hannaby, Mark (1 Mawrth 2010). Historic Pierhead building in Cardiff re-opens. BBC. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2013.
  4. Hilling, John B. (1973). Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape. Llundain: Lund Humphries.CS1 maint: ref=harv (link) t. 50
  5. (Saesneg) Nowaczyk, Wayne (9 Tachwedd 2011). Historic Pierhead Clock makes timely return to Cardiff. South Wales Echo. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2013.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne